Polisi iaith

Polisi cyhoeddus sy'n ceisio dylanwadu ar ddefnydd iaith yw polisi iaith. Gall amrywio o hybu amlieithrwydd, a geir yn aml mewn democratiaethau amlddiwylliannol, i orfodi unieithrwydd, a geir yn aml mewn gwledydd awdurdodaidd. Gall polisi iaith gynnwys dynodi ieithoedd swyddogol, rhanbarthol, a lleiafrifol, sefydlu corff rheoli iaith, neu lethu rhai ieithoedd a thafodieithoedd trwy wrthdwyieithrwydd. Gall hefyd ymgorffori agweddau ar strategaeth normaleiddio iaith, lle ceisir adfer (neu creu am y tro cyntaf) pau ieithyddol i iaith leiafrifiedig.


© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search